top of page

TAMMY KENNEDY

Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol

Tammy FFT.jpg

Ffaith Ddifyr – Fe wnes i glymu carrai esgidiau Ranulph Fiennes yn ei gartref

​Tammy yw cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Little Bird, gyda phrofiad datblygu sylweddol mewn rhaglenni ffeithiol poblogaidd, rhaglenni dogfen a fformatau. 

 

Mae ei chomisiynau diweddar yn cynnwys Nurses ar gyfer BBC Cymru a BBC Three, How to Make it on Only Fans ar gyfer Channel 4, Cheer am Byth a Teulu'r Castell ar gyfer S4C yn ogystal â nifer o rai eraill sydd wrthi’n cael eu cynhyrchu.

 

Comisiwn ei breuddwydion yw cyfres fawr sy’n dychwelyd dro ar ôl tro a fydd yn cael ei werthu ar draws y byd, er mwyn iddi allu cael hoe fach o’r diwedd am bum munud!

 

Datblygodd ei chrefft ar yr ochr ddatblygu yn y BBC a gweithiodd ar nifer o gomisiynau rhwydwaith uchel eu proffil, gan gynnwys The Museum of Life ar gyfer BBC Two, Top Dogs: Adventures in War, Sea and Ice ar gyfer BBC Two ac Alexandra Tolstoy’s Horse People ar gyfer BBC Two,  Egypt's Lost Cities a Rome’s Lost Empire ar gyfer BBC One, rhaglen arbennig o Crimewatch Armed Robbers ar BBC One a Weatherman Walking ar gyfer BBC Cymru.  

 

Yn fwy diweddar, mae Tammy wedi cynhyrchu a chyfarwyddo nifer o benodau o’r gyfres hynod lwyddiannus Hayley Goes ar gyfer BBC Three/BBC Cymru, ac mae’n parhau i droi ei llaw ar yr ochr ddatblygu a chynhyrchu.

tammy@littlebirdfilms.co.uk

bottom of page