top of page
jakob-owens-ntqaFfrDdEA-unsplash.jpg

Green Wing yw ein chwaer-gwmni, gan wneud cynaliadwyedd cynhyrchu yn syml.

 

​Nod Green Wing yw gwneud mynd yn wyrdd yn haws i’r sector cyfryngau. Gyda dros 30

mlynedd o brofiad cynhyrchu darlledu ar ein tîm, rydyn ni’n deall yr heriau y mae ein

diwydiant yn eu hwynebu i fod yn gynaliadwy.

 

Ond rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw ymrwymo i'r amgylchedd, nawr yn fwy

nag erioed.

 

Fe wnaethon ni ddatblygu adnodd i leihau ein hôl troed carbon ein hunain a chreu

cynyrchiadau gwyrddach, a ni sy’n profi ein hunain fwyaf - yn mireinio, yn gwella ac yn

arloesi’n gyson.

 

​Nawr rydyn ni eisiau helpu eraill sydd wedi profi'r un rhwystrau. Mae ein Rheolwr Ôl Troed Carbon chwyldroadol yn cymryd y dryswch a'r straen o orfod cwblhau Albert drwy symleiddio'r broses gyda'r hyblygrwydd i ffitio i unrhyw amserlen gynhyrchu.

 

​Wedi’i ddatblygu gan Little Bird Films, a’i gefnogi gan ymchwil helaeth a ariannwyd drwy raglen Clwstwr Prifysgol Caerdydd.

​I gael gwybod mwy, ewch i green-wing.co.uk neu cysylltwch â Nida, Rheolwr Prosiectau

yn nida@littlebirdfilms.co.uk

image.png
bottom of page