top of page

Diogelu Data

Polisi Preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn llywodraethu'r ffordd y mae Little Bird Films yn casglu, yn

defnyddio, yn cadw ac yn datgelu gwybodaeth a gasglwyd wrth ddefnyddwyr (pob un yn

‘Ddefnyddiwr’) url www.littlebirdfilms.co.uk (‘gwefan’). Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn

berthnasol i'r holl wasanaethau a gynigir gan Little Bird Films.

​Mae Little Bird Films yn parchu eich preifatrwydd ac wedi ymrwymo i ddiogelu eich data

personol. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich

data personol ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn

eich diogelu.

 

1. Gwybodaeth bwysig a phwy ydym ni

Pwrpas yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn

Nod y polisi preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am sut mae Little Bird Films yn

casglu ac yn prosesu eich data personol.

Efallai y gofynnir i ddefnyddwyr am enw a/neu gyfeiriad e-bost, lle bo'n briodol. Byddwn yn

casglu gwybodaeth adnabod bersonol gan Ddefnyddwyr dim ond os ydynt yn cyflwyno

gwybodaeth o'r fath i ni yn wirfoddol. Gall defnyddwyr wastad wrthod darparu gwybodaeth

adnabod bersonol, ac eithrio y gallai eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau

penodol.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y polisi preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw bolisi

preifatrwydd neu bolisi prosesu teg arall y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol pan

fyddwn yn casglu neu’n prosesu data personol amdanoch fel eich bod yn gwbl ymwybodol o

sut a pham rydym yn defnyddio eich data. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn cyd-fynd â

hysbysiadau a pholisïau preifatrwydd eraill ac nid yw wedi; i fwriadu i'w gwrth-wneud.

​Rheolwr

Little Bird Films yw’r rheolwr ac sy’n gyfrifol am eich data personol (y cyfeirir ati fel ‘Little

Bird Films’, ‘ni’ neu ‘ein’ yn y polisi preifatrwydd hwn).

​Sara Griffiths (cyfreithiwr Loosemores) sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn

perthynas â’r polisi preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi

preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch

â hi gan ddefnyddio'r manylion a nodir ar y dudalen hon.

​Mae gennych hawl i wneud cwyn unrhyw bryd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO),

awdurdod goruchwylio’r DU ar faterion diogelu data (www.ico.org.uk). Serch hynny,

byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddelio â'ch pryderon cyn i chi gysylltu â'r ICO, felly

cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

2. Newidiadau i'r polisi preifatrwydd ach dyletswydd i roi gwybod i ni am newidiadau

​Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd.

Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfoes. Rhowch

wybod i ni os bydd eich data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

​3. Y data a gasglwn amdanoch

Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y

gellir adnabod y person hwnnw ohoni. Nid yw'n cynnwys data lle mae'r hunaniaeth wedi'i

ddileu (data dienw).

 

Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol

amdanoch yr ydym wedi’u grwpio gyda’i gilydd fel hyn:

- Mae Data Hunaniaeth yn cynnwys enw cyntaf, enw olaf, enw defnyddiwr neu

ddynodwr tebyg.

-  Mae Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad bilio, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.

-  Mae Data Trafodiad yn cynnwys manylion am daliadau i chi ac oddi wrthoch chi a

manylion eraill am wasanaethau rydych wedi’u prynu wrthym.

-  Mae Data Technegol yn cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data

mewngofnodi, math o borwr a fersiwn, gosodiad parth amser a lleoliad, mathau a

fersiynau o ategion porwr, system a phlatfform gweithredu, a mathau eraill o

dechnoleg ar y dyfeisiau a ddefnyddiwch i gael mynediad i'r wefan hon.

- Mae Data Proffil yn cynnwys eich enw defnyddiwr a chyfrinair, adborth ac

ymatebion i arolygon.

- Mae Data Defnydd yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein

gwefan a'n gwasanaethau.

- Mae Data Marchnata a Chyfathrebu yn cynnwys eich dewisiadau wrth dderbyn

marchnata wrthon ni a'n trydydd partïon a'ch dewisiadau cyfathrebu.

Rydym hefyd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu Data Cyfunol fel data ystadegol neu

ddemograffig at unrhyw ddiben. Gallai Data Cyfunol ddeillio o’ch data personol ond nid

yw’n cael ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan na fydd y data hwn yn datgelu

pwy ydych chi’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn

cydgrynhoi eich Data Defnydd i gyfrifo canran y defnyddwyr sy'n troi at nodwedd benodol

o’r wefan. Serch hynny, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu Data Cyfunol â’ch data personol

fel y gall eich adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfun fel

data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch chi (mae hyn

yn cynnwys manylion eich hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd

rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth am

eich iechyd, a data genetig a biometreg ). Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth am

euogfarnau a throseddau troseddol chwaith.

​Os byddwch yn methu â darparu data personol

Lle mae angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd

gennym gyda chi, a’ch bod yn methu â darparu’r data hwnnw pan ofynnir amdano, mae’n

bosib na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym neu’n ceisio ymrwymo iddo

(er enghraifft, i ddarparu gwasanaethau i chi). Yn yr achos hwn, efallai y bydd rhaid i ni

ganslo cynnyrch neu wasanaeth sydd gennych gyda ni ond byddwn yn eich hysbysu os bydd

hynny’n digwydd ar y pryd.

 

​4. Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu?

Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data oddi wrthoch ac amdanoch chi gan

gynnwys drwy:

 

-   Rhyngweithio uniongyrchol. Gallwch roi eich Data Hunaniaeth, Cyswllt ac Ariannol i ni

drwy lenwi ffurflenni neu drwy ohebu â ni drwy'r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn

cynnwys data personol a ddarperir gennych pan fyddwch yn:

- gwneud cais am ein cynnyrch neu wasanaethau;

- creu cyfrif ar ein gwefan;

- tanysgrifio i'n gwasanaeth neu gyhoeddiadau;

- gofyn am ddeunydd marchnata i gael ei anfon atoch;

-cwblhau arolwg; neu

- rhoi adborth i ni neu gysylltu â ni.

-Trydydd partïon neu ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus. Byddwn yn derbyn data

personol amdanoch gan wahanol drydydd partïon a ffynonellau cyhoeddus fel y

nodir isod:

-Data Technegol gan ddarparwyr dadansoddeg fel Google, sydd wedi'u lleoli y tu allan

i'r UE, at ddibenion monitro traffig gwefan;

-Data Hunaniaeth a Chyswllt o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus fel Tŷ'r

Cwmnïau a';r Gofrestr Etholiadol sydd wedi'u lleoli y tu mewn i'r UE.

 

5. Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn defnyddio eich data

personol. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio eich data personol o dan yr

amgylchiadau canlynol:

- Lle bo angen i ni gyflawni'r contract rydym ar fin ymrwymo iddo neu wedi ymrwymo

iddo â chi.

- Lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau dilys (neu rai trydydd parti) ac nad yw

eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn drech na'r buddiannau hynny.

- Lle bo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.

Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich

data personol er y byddwn yn cael eich caniatâd cyn anfon deunydd marchnata

uniongyrchol trydydd parti atoch drwy e-bost neu neges destun. Mae gennych yr hawl i

dynnu eich caniatâd marchnata yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.

Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Rydym wedi nodi isod, mewn tabl, ddisgrifiad o’r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio

eich data personol, a pha rai o’r seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny.

Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau dilys lle bo'n briodol.

 

Sylwer y gallwn brosesu eich data personol am fwy nag un sail gyfreithlon yn dibynnu ar y

diben penodol rydym yn defnyddio eich data ar ei gyfer. Cysylltwch â ni os oes angen

manylion arnoch am y sail gyfreithiol benodol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data

personol lle mae mwy nag un sail wedi’i nodi yn y tabl isod:

Mae ystyr ‘seiliau cyfreithlon’ y cyfeiriwn atynt yn y tabl fel a ganlyn:

​Mae Buddiant Dilys yn golygu buddiant ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i’n

galluogi i roi’r gwasanaeth/cynnyrch gorau a’r profiad gorau a mwyaf diogel i chi. Rydym yn

sicrhau ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosib arnoch chi (positif a

negyddol) a'h hawliau cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau dilys. Nid

ydym yn defnyddio eich data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae ein buddiannau yn

drech na’r effaith arnoch chi (oni bai bod gennym eich caniatâd neu fod y gyfraith yn ei

gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu hynny fel arall). Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut

rydym yn asesu ein buddiannau dilys yn erbyn unrhyw effaith bosib arnoch chi mewn

perthynas â gweithgareddau penodol drwy gysylltu â ni.

Mae Cyflawni Contract yn golygu prosesu eich data lle bo angen cyflawni contract rydych yn

barti iddo neu i gymryd camau, ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract o' fath.

Mae cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yn golygu prosesu eich data personol lle bo

angen er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddi.

Newid pwrpas

Byddwn ond yn defnyddio eich data personol at y dibenion y gwnaethom ei gasglu, oni bai

ein bod yn ystyried yn rhesymol bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y

rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol. Os hoffech gael eglurhad ynglŷn â sut

mae'r prosesu ar gyfer y diben newydd yn gydnaws â'r pwrpas gwreiddiol, cysylltwch â ni.

​Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben digyswllt, byddwn yn rhoi

gwybod i chi a byddwn yn esbonio’r sail gyfreithiol sy’n caniatáu i ni wneud hynny.

Sylwer y gallwn brosesu eich data personol heb yn wybod i chi neu heb eich caniatâd, tra’n

cydymffurfio â’r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu wedi’i ganiatáu gan y gyfraith.

6. Datgelu eich data personol

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol â’r partïon a nodir isod at y dibenion a

nodir yn y tabl uchod.

- Ar eich cyfarwyddyd chi.

- Gyda darparwyr Gwasanaethau Trydydd Parti yn gweithredu fel proseswyr yn y DU,

AEE neu UDA sy'n darparu gwasanaethau TG a gweinyddu systemau.

- Ymgynghorwyr proffesiynol sy'n gweithredu fel proseswyr neu reolwyr ar y cyd gan

gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr yn y DU sy'n darparu

gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu.

 

- Cyllid a Thollau EM, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill sy'n gweithredu fel

proseswyr neu reolwyr ar y cyd yn y DU sydd angen adrodd am weithgareddau

prosesu mewn rhai amgylchiadau.

- Gyda gwasanaethau trydydd parti sy'n cael eu galluogi gennych chi.

-  Gyda chysylltiadau corfforaethol, neu ryw endid cyfreithiol arall sy'n deillio o uno,

diddymu caffaeliad neu ad-drefnu'r sefydliad.

-  Cydymffurfio â rheoliadau neu gyfreithiau cymwys eraill a cheisiadau cyfreithiol dilys

gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith.

-  Er mwyn gorfodi ein hawliau ac er diogelwch defnyddwyr awdurdodedig y

gwasanaeth a ddarparwn neu drydydd parti/partïon y gallwn ddewis gwerthu,

trosglwyddo neu uno rhannau o'n busnes neu ein hasedau. Fel arall, efallai y byddwn

yn ceisio prynu busnesau eraill neu uno â nhw. Os bydd newid yn digwydd i’n

busnes, yna gall y perchnogion newydd ddefnyddio eich data personol yn yr un

ffordd ag y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a'i

drin yn unol â'r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti

ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond yn caniatáu iddynt

brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.

7. Diogelwch data

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei

golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu gael mynediad ato mewn ffordd anawdurdodedig, ei

newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i'r

gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill sydd ag angen busnes i wybod.

Dim ond ar ein cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol ac maent yn

destun dyletswydd cyfrinachedd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau

data personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am doriad lle

mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

8. Cadw data

Am ba mor hir fyddwch chi'n defnyddio fy nata personol?

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i gyflawni’r

dibenion y casglwyd ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion

cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu adrodd. Mae’n bosibl y byddwn yn cadw eich

data personol am gyfnod hirach os bydd cwyn neu os ydym yn credu’n rhesymol bod

posibilrwydd o ymgyfreitha o ran ein perthynas â chi.

 

Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur

a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data

personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a

ydym yn gallu cyflawni'r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a' gofynion cyfreithiol,

rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu ofynion eraill.

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i ni gadw gwybodaeth sylfaenol am ein haelodau (gan gynnwys

Data Cyswllt, Hunaniaeth, Ariannol a Thrafodion) am chwe blynedd ar ôl iddynt roi'r gorau i

fod yn gwsmeriaid at ddibenion treth.

Mewn rhai amgylchiadau gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler eich hawliau cyfreithiol

isod am fwy o wybodaeth.

Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn gwneud eich data personol yn ddienw (fel na ellir ei

gysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, ac os felly gallwn ddefnyddio’r

wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb rybudd pellach i chi.

9. Eich hawliau cyfreithiol

O dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawliau canlynol o dan ddeddfau diogelu

data mewn perthynas â’ch data personol:

​Cais am fynediad i’ch data personol (sy’n cael ei adnabod fel ‘cais am fynediad at ddata’).

Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch ac i wirio

ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.

​Cais i gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro

unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch, er efallai y bydd angen i ni

wirio cywirdeb y data newydd a roddwch i ni.

​Cais i ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu data

personol lle nad oes rheswm da i ni barhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i

ni ddileu neu dynnu eich data personol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu

prosesu yn llwyddiannus (gweler isod), lle gallwn fod wedi prosesu eich gwybodaeth yn

anghyfreithlon neu lle mae gofyn i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith

leol. Sylwer, serch hynny, efallai na fyddwn wastad yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu

am resymau cyfreithiol penodol a fydd yn cael eu rhoi i chi, os yn berthnasol, adeg eich cais.

​Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu

fuddiant trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy’n gwneud i chi fod eisiau

gwrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau

a’ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich

data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn

yn dangos bod gennym seiliau cyfreithlon gorfodol i brosesu eich gwybodaeth sy’n drech

na’ch hawliau a’ch rhyddid.

​Cais i gyfyngu prosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu

eich data personol yn y sefyllfaoedd canlynol: (a) os ydych am i ni sefydlu cywirdeb y data;

 

(b) lle mae ein defnydd o'r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu; (c) lle

rydych angen i ni gadw'r data hyd yn oed os nad ydym ei angen arnom mwyach gan fod ei

angen arnoch i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (ch) eich bod wedi

gwrthwynebu ein defnydd o'h data ond mae angen i ni wirio a oes gennym seiliau

cyfreithlon dros ei ddefnyddio sy’n drech.

​Cais i drosglwyddo eich data personol i chi neu drydydd parti. Byddwn yn darparu eich data

personol i chi, neu drydydd parti rydych wedi’i ddewis, mewn fformat strwythuredig, a

ddefnyddir yn gyffredin, y gall peiriant ei ddarllen. Sylwer bod yr hawl hon yn berthnasol i

wybodaeth awtomataidd yn unig y gwnaethoch chi roi caniatâd i ni ei defnyddio yn y lle

cyntaf neu lle defnyddiwyd y wybodaeth i gyflawni contract â chi.

​Tynnu eich caniatâd unrhyw bryd lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data

personol. Serch hynny, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wneir

cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl, efallai na

fyddwn yn gallu darparu rhai cynnyrch neu wasanaethau i chi. Byddwn yn eich cynghori os

dyna’r sefyllfa adeg y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

​​Nid oes angen ffi fel arfer

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o'r

hawliau eraill). Serch hynny, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw'n amlwg bod eich

cais yn ddi-sail, yn ailadroddus neu'n ormodol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â'ch

cais o dan yr amgylchiadau hyn.

Yr hyn y gall fod ei angen arnom wrthoch chi

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol wrthoch i’n helpu i gadarnhau

pwy ydych chi ac i sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer

unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau nad yw data personol yn

cael ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes ganddo hawl i'w dderbyn. Mae’n bosibl y byddwn

hefyd yn cysylltu â chi i ofyn i chi am fwy o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais i gyflymu

ein hymateb.

Terfyn amser ar gyfer ymateb

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. Weithiau, gallai gymryd mwy na mis i ni

os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr

achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn eich diweddaru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â hello@littlebirdfilms.co.uk  

bottom of page