top of page

JANE PHILLIPS

Ymchwilydd

IMG_4497_edited.jpg

Ffaith Ddifyr: Mae Jane yn ffarmwraig pumed cenhedlaeth gyda chefndir academaidd mewn Amaethyddiaeth.

 

Ymchwilydd yw Jane gyda Little Bird Films ac mae ganddi gefndir mewn cynyrchiadau ffeithiol arbenigol gwyddonol a hanesyddol. Ymunodd â Little Bird Films i weithio ar eu rhaglenni ffeithiol arbenigol, gan ddatblygu syniadau ar gyfer darlledwyr rhyngwladol.

 

Mae Jane yn awyddus i weld sut gall technolegau newydd a datblygiadau gwyddonol gael eu defnyddio i ddatrys problemau ac i ymdrin â phynciau mewn ffyrdd newydd ac arloesol.

 

Dechreuodd ei gyrfa ym myd teledu yn 2014, ac ers hynny mae wedi gweithio fel

Ymchwilydd ac Is Gynhyrchydd ar gynyrchiadau i ddarlledwyr y DU ac yn rhyngwladol, gyda phrofiad o drefnu mynediad i sefydliadau a threfnu ffilmio dramor. Ymhlith ei chynyrchiadau ffeithiol arbenigol mae Gathering Storm a Drain the Oceans ar gyfer National Geographic, Colosseum ar gyfer History a Follow the Food ar gyfer BBC World News, gan archwilio dulliau arloesol byd-eang ym maes cynhyrchu bwyd.

jane@littlebirdfilms.co.uk

bottom of page