top of page

LOUISE BRAY

Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr

IMG_6233_edited.jpg

Ffaith Ddifyr – Mae Louise yn chwarae’r ffliwt, piano a’r ffidil!

Mae hefyd yn ffan anferthol o dîm pêl-droed Lerpwl.

​Louise yw cyd-sylfaenydd Little Bird Films ac yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr cyfres sydd wedi treulio’r 20 mlynedd ddiwethaf yn datblygu ac yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnwys ffeithiol ar gyfer marchnad y DU a’r farchnad ryngwladol.

 

Fel un o raddedigion cynllun hyfforddi FT2 Channel 4 yn 2001, gweithiodd Louise gyda rhai o’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol mawr yn Llundain cyn ymuno â’r BBC ym Mryste yn 2003. Gan arbenigo mewn rhaglenni ffeithiol poblogaidd a ffeithiol arbenigol, yn ogystal â ffilmio dramor, mae llwyddiannau cynhyrchu Louise yn cynnwys Football Stories ar gyfer Channel 4, Private Life of a Masterpiece ar gyfer BBC Two, BBC Young Musician ar gyfer BBC Four, Being Katherine Jenkins ar gyfer BBC One, Montezuma ar gyfer BBC Two, Gareth Thomas and the Battle at Mametz (rhaglen arbennig am y Rhyfel Byd Cyntaf) ar gyfer BBC One a Manolo The Boy Who Made Shoes for Lizards (rhaglen ddogfen hir am y cynllunydd

esgidiau eiconig Manolo Blahnik) i Netflix.  

Yn ddiweddar, Louise oedd Cynhyrchydd y Gyfres boblogaidd ar BBC Three / BBC One Wales, Hayley Goes ac mae'n goruchwylio'r cynhyrchiad newydd 'Nurses' (teitl dros dro) ar gyfer BBC Three.

​Fel rhan o dîm Datblygu Ffeithiol y BBC yng Nghaerdydd, Louise oedd yn gyfrifol am greu a datblygu nifer fawr o gynnwys ffeithiol arbenigol a phoblogaidd, gan gynnwys Petrie: The Man who Discovered Egypt ar gyfer BBC Four, a Best Job in the World ar gyfer BBC One. Hi greodd a datblygodd y rhaglenni dogfen arloesol Egypt’s Lost Cities a Rome’s Lost Empire, wrth iddi fynd ymlaen i gynhyrchu’r ddwy gyfres ar gyfer oriau brig BBC One a’r Discovery Channel.

 

Gadawodd Louise y BBC yn 2014 a sefydlodd Little Bird Films gyda

Tammy Kennedy yn 2018.

louise@littlebirdfilms.co.uk

bottom of page